Heddiw cyhuddwyd rheolwyr Canolfan Mileniwm Cymru o fod ag agwedd "ddi-hid a thrahaus" tuag at wariant cyhoeddus gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Wrth feirniadu'r ganolfan yn hallt, honnodd Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fod Canolfan Mileniwm Cymru yn defnyddio pwynt cyfreithiol technegol i osgoi datgelu manylion ei gweithrediadau a'i hymdrechion i osgoi argyfwng ariannol.
Mae Paul Davies AC, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid hefyd wedi mynegi ei anghrediniaeth fod corff sy'n derbyn arian cyhoeddus yn ceisio osgoi'r broses graffu .
Mae'r ganolfan wedi derbyn degau o filiynau o bunnoedd o arian y trethdalwr ers ei sefydlu, gan gynnwys £37 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad i adeiladu'r ganolfan a £13.5 miliwn o gymhorthdal gan Lywodraeth y Blaid Lafur/Plaid Cymru ym Mae Caerdydd fis Hydref diwethaf.
Mae Canolfan y Mileniwm hefyd yn derbyn arian cyhoeddus o ffynonellau eraill, fel Cyngor y Celfyddydau.
Cyflwynodd Mr Bourne gais Rhyddid Gwybodaeth i Judith Isherwood, prif weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru, ynglŷn â gweithrediadau'r ganolfan.
Gofynnodd hefyd am yr ohebiaeth gyda Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn ag adroddiad yr archwilydd na gafodd ei gyhoeddi, a oedd yn dweud bod y ganolfan ym Mae Caerdydd mewn perygl o fynd yn fethdalwr.
Mae Ms Isherwood wedi gwrthod cais Rhyddid Gwybodaeth Mr Bourne.
Meddai Nick Bourne AC:
"Rwy'n methu credu agwedd ddi-hid a thrahaus Canolfan Mileniwm Cymru tuag at fater sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd.
"Mae degau o filiynau o bunnoedd o arian y trethdalwr wedi'i wario ar y prosiect hwn ac mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod sut mae'r arian hwnnw wedi'i wario.
"Mae'r £13 miliwn o gymhorthdal diweddar gan Lywodraeth y Cynulliad yn dangos nad yw'r ganolfan wedi bod yn gweithredu'n effeithiol ers cryn amser.
"Os yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gywiro'r methiannau hynny, mae gennym yr hawl i wybod pryd roedd y rheolwyr yn ymwybodol o'r problemau gyntaf a sut aethant ati i'w datrys.
"Ni all sefydliad mawr fel Canolfan Mileniwm Cymru ddefnyddio pwyntiau cyfreithiol technegol i osgoi craffu cyhoeddus.
"Rwy'n pryderu'n fawr bod Canolfan y Mileniwm a Llywodraeth Glymblaid y Cynulliad (dan arweiniad y Blaid Lafur a Phlaid Cymru) yn troi'r mater hwn yn un cwbl gyfrinachol.
"O ystyried yr holl arian cyhoeddus sydd wedi'i wario ar y prosiect hwn, mae angen adroddiadau agored, tryloyw a chynhwysfawr ar yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad a rheolwyr Canolfan Mileniwm Cymru wedi'i wneud i helpu'r ganolfan allan o'r twll du ariannol hwn."
Meddai Paul Davies, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid ac AC Preseli a Sir Benfro:
"Mae'n anodd credu bod corff llywodraethol Canolfan Mileniwm Cymru yn gwrthod datgelu gwybodaeth, a ddylai fod yn eiddo i'r cyhoedd, i gynrychiolwyr etholedig.
"Mae'r ganolfan wedi derbyn symiau sylweddol o arian y trethdalwr dros flynyddoedd lawer.
"Gan mai ni sy'n cynrychioli'r cyhoedd, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod y wybodaeth hon yn eiddo i'r cyhoedd. Mae pobl Cymru yn haeddu gwybod sut mae eu harian wedi'i wario.
"Fel yr Wrthblaid Swyddogol yn y Cynulliad, byddwn ni'n parhau i sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn atebol am eu gweithrediadau."
"Mae’r £13 miliwn o gymhorthdal diweddar gan Lywodraeth y Cynulliad yn dangos nad yw’r ganolfan wedi bod yn gweithredu’n effeithiol ers cryn amser.
"Os yw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gywiro’r methiannau hynny, mae gennym yr hawl i wybod pryd roedd y rheolwyr yn ymwybodol o’r problemau gyntaf a sut aethant ati i’w datrys.
"Ni all sefydliad mawr fel Canolfan Mileniwm Cymru ddefnyddio pwyntiau cyfreithiol technegol i osgoi craffu cyhoeddus.
"Rwy’n pryderu’n fawr bod Canolfan y Mileniwm a Llywodraeth Glymblaid y Cynulliad (dan arweiniad y Blaid Lafur a Phlaid Cymru) yn troi’r mater hwn yn un cwbl gyfrinachol.
"O ystyried yr holl arian cyhoeddus sydd wedi’i wario ar y prosiect hwn, mae angen adroddiadau agored, tryloyw a chynhwysfawr ar yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad a rheolwyr Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i wneud i helpu’r ganolfan allan o’r twll du ariannol hwn."
Meddai Paul Davies, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid ac AC Preseli a Sir Benfro:
"Mae’n anodd credu bod corff llywodraethol Canolfan Mileniwm Cymru yn gwrthod datgelu gwybodaeth, a ddylai fod yn eiddo i’r cyhoedd, i gynrychiolwyr etholedig.
"Mae’r ganolfan wedi derbyn symiau sylweddol o arian y trethdalwr dros flynyddoedd lawer.
"Gan mai ni sy’n cynrychioli’r cyhoedd, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod y wybodaeth hon yn eiddo i’r cyhoedd. Mae pobl Cymru yn haeddu gwybod sut mae eu harian wedi’i wario.
"Fel yr Wrthblaid Swyddogol yn y Cynulliad, byddwn ni’n parhau i sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn atebol am eu gweithrediadau."